POLISI PREIFATRWYDD
Mae'r polisi preifatrwydd hwn wedi'i rannu i'r adrannau dilynol:
Pwy ydym ni
Ein gwefan
Cwcis a thechnolegau tebyg
Eich hawliau
Sut i gwyno
Newidiadau i bolisi preifatrwydd y wefan hon
Sut i gysylltu â ni
PWY YDYM NI
Mae'r wefan hon yn cael ei gweithredu gan Energy Networks Association Limited (“ENA” neu "ni"). Ni yw llais y rhwydweithiau, yn cynrychioli gweithredwyr rhwydwaith trosglwyddo a dosbarthu ‘gwifrau a phibellau’ nwy a thrydan yn y DU ac Iwerddon.
Rydym yn casglu, yn defnyddio, ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi. Pan wnawn hynny, rydym yn cael ein rheoleiddio gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sy'n berthnasol ledled yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys yn y Deyrnas Unedig) ac rydym yn gyfrifol fel 'rheolydd' y wybodaeth bersonol honno at ddibenion y cyfreithiau hynny.
EIN GWEFAN
Mae'r polisi prefatrwydd hwn yn ymwneud â'ch defnydd o'n gwefan, www.movingthegridforward.co.uk.
Drwy gydol ein gwefan efallai y byddwn yn cysylltu â gwefannau eraill sy'n eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan drydydd partïon dibynadwy penodol. Gall y gwefannau trydydd parti eraill hyn hefyd gasglu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'u polisïau preifatrwydd ar wahân eu hunain. Am wybodaeth preifatrwydd sy'n ymwneud â'r gwefannau trydydd parti eraill hyn, cyfeiriwch at eu polisïau preifatrwydd yn ôl yr angen.
CWCIS A THECHNOLEGAU OLRHAIN ERAILL
Ffeil destun fach yw cwci sy'n cael ei rhoi ar eich dyfais (e.e. cyfrifiadur, ffôn clyfar neu ddyfais electronig arall) pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. Mae'r cwcis hyn yn ein helpu i'ch adnabod chi a'ch dyfais ac yn storio rhywfaint o wybodaeth am eich dewisiadau neu gamau gweithredu yn y gorffennol ac i'ch helpu i lywio ein gwefan.
Mae'r holl ddata sy'n cael ei gasglu yn ddienw.
Am ragor o wybodaeth am gwcis, ein defnydd o gwcis, pryd y byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn eu gosod a sut i'w hanalluogi, gweler ein Polisi Cwcis.
EICH HAWLIAU
O dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mae gennych nifer o hawliau pwysig yn rhad ac am ddim. I grynhoi, mae'r rheini'n cynnwys hawliau i'r canlynol:
prosesu gwybodaeth yn deg a thryloywder ynghylch sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac at wybodaeth atodol benodol arall y mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn eisoes wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â hi
gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich gwybodaeth sydd gennym
gofyn am ddileu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi mewn rhai sefyllfaoedd
derbyn y wybodaeth bersonol amdanoch chi yr ydych wedi'i rhoi i ni, mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant a chael yr hawl i drosglwyddo'r data hwnnw i drydydd parti mewn rhai sefyllfaoedd
gwrthwynebu ar unrhyw adeg i brosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi at ddibenion marchnata uniongyrchol
gwrthwynebu penderfyniadau sy'n cael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd sy'n creu effeithiau cyfreithiol sy'n ymwneud â chi neu sy'n effeithio'n sylweddol arnoch chi yn yr un modd
gwrthwynebu mewn rhai sefyllfaoedd penodol eraill i ni barhau i brosesu eich gwybodaeth bersonol
cyfyngu fel arall ar ein prosesu o'ch gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau
hawlio iawndal am ddifrod a achosir gennym yn torri unrhyw gyfreithiau diogelu data
Am ragor o wybodaeth am bob un o’r hawliau hynny, gan gynnwys yr amgylchiadau y maent yn berthnasol iddynt, gweler y Canllawiau gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (ICO) ar hawliau unigolion o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data..
Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hynny, gofynnir ichi:
anfon e-bostio, ffonio neu ysgrifennu atom yn data@energynetworks.org, +44 (0) 20 7706 5133 neu Energy Networks Association, 4 More London Riverside, Llundain SE1 2AU
rhowch ddigon o wybodaeth i ni allu eich adnabod chi
rhowch brawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad i ni (copi o’ch trwydded yrru neu basbort a bil cyfleustodau neu gerdyn credyd diweddar), a
rhowch wybod i ni'r wybodaeth y mae eich cais yn ymwneud â hi.
SUT I GWYNO
Gobeithiwn y gallwn ddatrys unrhyw ymholiad neu bryder a godwch ynglŷn â'n defnydd o'ch gwybodaeth.
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data hefyd yn rhoi'r hawl i chi gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio, yn benodol yn wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd) lle rydych chi'n gweithio, yn byw fel arfer neu lle digwyddodd unrhyw dorri honedig o gyfreithiau diogelu data. Yr awdurdod goruchwylio yn y DU yw'r Comisiynydd Gwybodaeth, y gellir cysylltu ag ef drwy eu tudalen Gwneud Cwyn.
NEWIDIADAU I'R POLISI PREIFATRWYDD HWN
Cyhoeddwyd polisi preifatrwydd y wefan hon ar 31 Awst 2020 a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Mai 2023.
Mae'n bosib y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd y wefan hwn o bryd i'w gilydd, pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn diweddaru'r polisi ar y dudalen hon o'n gwefan.
SUT I GYSYLLTU Â NI
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost, ffoniwch neu ysgrifennwch atom yn data@energynetworks.org, +44 (0) 20 4599 7700 neu Energy Networks Association, 4 More London Riverside, Llundain SE1 2AU.